Cynllun ildio newydd yn dechrau er mwyn cadw arfau peryglus oddi ar y strydoedd
Cynnwys y prif erthygl
Mae Heddlu De Cymru yn cefnogi cynllun ildio arfau cenedlaethol, lle gellir talu iawndal i bobl am ildio arfau ymosodol – a fydd yn anghyfreithlon y flwyddyn nesaf – er mwyn eu tynnu oddi ar y strydoedd a helpu i atal trais difrifol rhag digwydd.
O dan gynllun y Swyddfa Gartref, gellir ildio arfau ymosodol (a gaiff eu gwahardd yn fuan) i'r heddlu, yn ogystal â reifflau tanio cyflym sy'n tanio ar gyfradd sy'n agosach at reifflau lled-awtomatig. Bydd perchnogion cyfreithlon yn gallu hawlio iawndal am yr eitemau yn y rhan fwyaf o achosion.
Mae hyn yn dilyn y Ddeddf Arfau Ymosodol sy'n gwahardd unigolion rhag meddu ar arfau peryglus ac ymosodol yn breifat. Mae'r rhestr o arfau yn cynnwys cyllyll sombi, cyllyll seiclon, dyrnau haearn, cyllyll seren farwolaeth, cyllyll clec, cyllyll disgyrchiant, batonau, cyllyll cudd, dagerau gwthio ac arfau ymosodol eraill. Roedd eisoes yn anghyfreithlon meddu ar gyllell neu arf ymosodol yn gyhoeddus.
Bydd y cynllun yn para am dri mis rhwng 10 Rhagfyr 2020 a 9 Mawrth 2021. Bydd perchnogion cyfreithlon yn gallu hawlio iawndal os bydd cyfanswm gwerth yr hawliad yn fwy na £30. Gellir cyflwyno hawliadau i'r heddlu gan ddefnyddio ffurflen.
Mae'r cynllun hwn yn ychwanegol at yr amnestau cyllyll y mae heddluoedd yn eu cynnal yn rheolaidd.
Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu De Cymru Karl Eenmaa:
“Mae mynd i'r afael â'r niwed a achosir gan droseddau sy'n ymwneud â chyllyll yn flaenoriaeth bwysig i Heddlu De Cymru. Gall fod effeithiau erchyll yn sgil defnyddio cyllell. Mae angen i bobl sy'n cario un gofio sut y gall eu gweithredoedd effeithio arnyn nhw, ar bobl eraill, ar eu teulu a'u ffrindiau, ac ar y gymuned ehangach.
“Bydd pob arf a gaiff ei ildio drwy'r cynllun hwn gan y Swyddfa Gartref yn golygu bod un arf yn llai ar gael i'w defnyddio mewn ffordd amhriodol. Manteisiwch ar y cynllun hwn – gallech achub bywyd drwy wneud hynny.”
Bydd modd ildio arfau yn y gorsafoedd canlynol o dan y cynllun; dylech drefnu i ddod rhwng 10am a 3pm, o ddydd Llun i ddydd Sul.
- Gorsaf Heddlu'r Barri (Heol Gladstone, CF63 1TD)
- Gorsaf Heddlu Pen-y-bont ar Ogwr (Stryd Bracla, CF31 1BZ)
- Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd (Stryd James, CF10 5EW)
- Gorsaf Heddlu Merthyr Tudful (Parc Busnes Rhydycar, CF48 1DL)
- Gorsaf Heddlu Castell-nedd (Heol Parc y Gnoll, SA11 3BG)
- Gorsaf Heddlu Pontypridd (Heol Berw, CF37 2TR)
- Gorsaf Heddlu Canol Abertawe (Grove Place, SA1 5DF)
Mae'r cynllun ildio llawn yn gymwys yng Nghymru a Lloegr ac mae'n ymwneud â chyllyll penodol ac arfau ymosodol eraill, yn ogystal â reifflau tanio cyflym, eu cyfarpar ategol a'u stociau tanio. Dim ond mewn perthynas ag arfau tanio, eu cyfarpar ategol a'u stociau tanio y mae'r cynllun yn berthnasol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae canllawiau ar gael drwy'r Swyddfa Gartref sy'n cynnwys rhestr o'r eitemau dan sylw, a chanllawiau ar sut i deithio gydag arfau a'u hildio yn ddiogel, ynghyd â lefelau iawndal.
Gallwch e-bostio unrhyw ymholiadau i: Offensive-Weapons-Surrender@south-wales.police.uk