Sut mae gwneud cais am dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
Coronavirus (Covid-19)
Rydym yn derbyn ceisiadau caniatâd newydd ar gyfer tystysgrifau drylliau, arfau tanio neu ffrwydron. Rydym yn dilyn canllawiau'r llywodraeth ynglŷn â'r angen i gadw pellter cymdeithasol. Bydd amseroedd prosesu yn cymryd ychydig yn hirach na’r arfer. Mae gennym ôl-groniad sylweddol ac rydym yn gweithio trwy’r rhain mor gyflym â phosibl. Os bydd yr ardal rydych yn byw ynddi yn dod o dan gyfyngiadau lleol ni fyddwn yn gallu gweithredu ar eich cais hyd nes bod y cyfyngiadau wedi’u codi.
Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau adnewyddu a byddem yn annog deiliaid tystysgrif sydd wedi derbyn llythyr atgoffa i adnewyddu, i gyflwyno eu cais a phro-fforma meddygol yn ddi-oed. Rhoddir blaenoriaeth isel i bob cais i amrywio tystysgrif arf tanio oni bai bod y cais yn un brys ac yn gysylltiedig â gwaith. Fel arall fe fyddwch yn gweld oedi hir. Cysylltwch â ni ar-lein os oes gennych gwestiynau.
Mae gwybodaeth isod am sut mae gwneud cais am dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron, neu adnewyddu un. Boed chi’n berchennog arf tanio, yn ddeliwr drylliau, yn aelod o glwb saethu neu’n bwriadu teithio ag arfau tanio, atebwch ychydig o gwestiynau cyflym ac fe wnawn ni eich cyfeirio at y ffurflen gywir, a phopeth sydd ei angen arnoch i’w llenwi.
Offeryn cyngor
Rydych chi ar Cam 1 o uchafswm o 1
Rhowch eich cyfeiriad.
Rhowch god post llawn neu rannol yn y blwch isod a chlicio ‘Canfod Cyfeiriad’ i weld y cyfeiriadau sy’n cyfateb, a dewis eich un chi.
Mae’r lefel chwyddo yn ddigonol