Cysylltu â ni
Coronafeirws (Covid-19)
Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth ynglŷn â coronafeirws neu dim ond eisiau rhoi gwybod i ni am rywbeth yr ydych chi’n credu sy’n torri’r mesurau 'Aros gartref', dilynwch y dolenni canlynol:
- Ein canllawiau a chyngor ar y mesurau aros gartref a chyfyngiadau eraill
- Dweud wrthym am dorri posibl y mesurau coronafeirws (Covid-19)
Ar-lein
Ydych chi’n chwilio am gymorth neu wybodaeth? Ydych chi eisiau rhoi gwybod i ni am rywbeth neu riportio digwyddiad? Defnyddiwch ein hofferyn syml isod i weld beth yw’r ffordd orau i gysylltu.
Rydw i eisiau cysylltu â chi…
Dros y ffôn
Ffoniwch 999 yn yr amgylchiadau canlynol:
- mae trosedd ddifrifol yn cael ei chyflawni neu newydd gael ei chyflawni
- mae rhywun mewn perygl ar hyn o bryd
- mae perygl i eiddo gael ei ddifrodi
- mae tarfu difrifol ar y cyhoedd yn debygol
Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18000.
Neu tecstiwch ni ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Galwadau 999 tawel
Os ydych mewn perygl ond na allwch siarad ar y ffôn, dylech ddal ffonio 999, yna dilyn y cyfarwyddiadau hyn yn dibynnu a ydych yn ffonio o ffôn symudol neu linell dir.
Ffoniwch 101 ar gyfer ymholiadau sydd ddim yn argyfwng.
Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101.
Ffoniwch Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth y DU ar 0800 789 321 os ydych wedi gweld neu glywed rhywbeth yr ydych chi’n meddwl allai awgrymu gweithgarwch terfysgol.
Defnyddiwch y rhif hwn os ydych yn cysylltu â ni o du allan i’r DU.
Arhoswch yn ddienw - Crimestoppers
Cysylltwch â Crimestoppers i riportio’n ddienw drosedd neu ymddygiad amheus.
Ymweld â ni
Dewch o hyd i’ch gorsaf neu fan cyswllt yr heddlu agosaf gan ddefnyddio’r blwch chwilio isod.