Gwneud cais am eich olion bysedd
Efallai y bydd rhai sefydliadau, yn y DU a thramor, yn gofyn i chi ddarparu eich olion bysedd at ddibenion diogelwch.
Gallwch ganfod pa sefydliadau yw’r rhain ac ym mha amgylchiadau y gallwn ni helpu.
Offeryn cyngor
Mae angen i mi ddarparu fy olion bysedd fel rhan o gais mabwysiadu wedi'i leoli dramor
Diolch. Er mwyn cysylltu â ni ar unrhyw adeg i drefnu apwyntiad, llenwch ein ffurflen ar-lein syml a chyflym. Cliciwch ‘dechrau’ isod i gychwyn.
Cyfartaledd amser cwblhau: 2 funud
Lle gallwch fynd ar gyfer olion bysedd
Gallwch drefnu apwyntiad i fynd i un o’r gorsafoedd heddlu hyn:
Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd
Stryd James
Caerdydd
CF105EW
Dod o hyd i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 8am a 2am.
Gorsaf Heddlu Ganolog Abertawe
Grove Place
Abertawe
SA1 5EA
Dod o hyd i Orsaf Heddlu Ganolog Abertawe ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 8am a 2am.
Gorsaf Heddlu Canol Caerdydd
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF103NN
Dod o hyd i Orsaf Heddlu Canol Caerdydd ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 8am a 6pm.
Gorsaf Heddlu Castell-nedd
Heol Parc y Gnoll
Castell-nedd
SA113BW
Dod o hyd i Orsaf Heddlu Castell-nedd ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 8am a 6pm.
Gorsaf Heddlu Pen-y-bont ar Ogwr
Stryd Bracla
Pen-y-bont ar Ogwr
CF311BZ
Dod o hyd i Orsaf Heddlu Pen-y-bont ar Ogwr ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 8am a 6pm.
Gorsaf Heddlu’r Barri
Heol Gladstone
Y Barri
CF63 1TD
Dod o hyd i Orsaf Heddlu’r Barri ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 8am a 6pm.
Gorsaf Heddlu Pontypridd
Heol Berw
Pontypridd
CF372TR
Dod o hyd i Orsaf Heddlu Pontypridd ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 8am a 6pm.
Gorsaf Heddlu Merthyr Tudful
Parc Busnes Rhydycar
Merthyr Tudful
CF481DL
Dod o hyd i Orsaf Heddlu Merthyr Tudful ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 8am a 6pm.
Rhaid trefnu apwyntiad.
Beth fydd ei angen arnaf?
Dewch â’r canlynol gyda chi:
- pasbort dilys, neu
- trwydded yrru cerdyn-llun lawn
- prawf cyfeiriad (ee cyfriflen banc, bil y dreth gyngor, bil cyfleustodau diweddar (o fewn tri mis) – ond dim bil ffôn symudol)
Os yw eich pasbort gan y Swyddfa Gartref, gallwn dderbyn llungopi o dudalen manylion adnabod eich pasbort ynghyd â llythyr wedi’i stampio’n swyddogol. Gallwch hefyd ofyn i’ch pasbort gael ei ryddhau o ofal y Swyddfa Gartref am 24 awr.
Rydym fel arfer yn darparu’r ffurflenni olion bysedd sydd eu hangen arnoch, fodd bynnag efallai bydd rhai gwledydd yn gofyn am eu ffurflenni penodol eu hunain. Os ydych angen cliriad ar gyfer:
- Canada
- Japan
- De Affrica
- UDA
efallai y bydd angen i chi gael y ffurflenni hyn cyn eich ymweliad a’u cyflwyno i’r Swyddfa Olion Bysedd.
Mae’n rhaid i fenywod sydd eisiau cliriad ar gyfer Iran ddarparu ffotograffau sy’n dangos:
- eu pen wedi’i orchuddio
- eu hwyneb heb ei orchuddio
- dim gwenu
Ni fydd awdurdodau Iran yn derbyn dim byd arall.
Faint mae hyn yn ei gostio?
Un set o olion bysedd: £81.10
Pob set ychwanegol: £40.50
Sylwer: mae rhai ffioedd olion bysedd yn ddarostyngedig i TAW, oni bai am rai eithriadau CThEM. Y gwledydd sydd wedi’u heithrio yw:
- Canada
- Ffiji
- Japan
- Nigeria
- St Vincent a’r Grenadines
- Yr Emiraethau Arabaidd Unedig
- Zimbabwe
- Zambia
Talwch gyda’r swm cywir o arian parod ar adeg yr apwyntiad. Nid ydym yn derbyn cardiau debyd na chredyd.
Dechrau